Bragdy Lleu

Bragdy crefft gwobrwyedig bro Dyffryn Nantlle yw Bragdy Lleu. Rydym yn creu cwrw o safon uchel gan ddefnyddio cynhwysion naturiol o’r safon uchaf.

Wedi ein sefydlu yn 2013, rydym yn cefnogi'r economi leol ac yn frwd dros iaith, hanes a diwylliant ardal Dyffryn Nantlle - ardal y Mabinogi. Mae pob cwrw rydym yn ei greu yn cael ei enwi ar ôl cymeriadau o’r chwedlau byd enwog, a nodweddion y cymeriadau hynny yn cael eu cyfleu yn nodweddion unigryw pob cwrw.

Mae’r busnes yn ehangu yn gyson, a bellach rydym yn cyflenwi casgenni i dafarndai ar draws Gogledd Cymru ac yn cyflenwi poteli i dafarndai, siopau a bwytai ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Yn ogystal rydym yn gwerthu'n uniongyrchol o’r bragdy ac yn mynychu sioeau amrywiol gyda’n bar symudol ac yn darparu cwrw ar gyfer digwyddiadau yn cynnwys priodasau a dathliadau o bob math.

Cwrw’r Celtiaid… 800 mlynedd o etifeddiaeth ymhob diferyn.